Stroliwch a Roliwch yw’r her gerdded, olwyno, sgwtera a beicio fwyaf rhwng ysgolion y Deyrnas Unedig! Mae angen eich cefnogaeth arnom i helpu i wneud Stroliwch a Roliwch eleni’r her fwyaf eto!
Gallwch weld a yw ysgol eich plentyn yn cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch a gweld eu tudalen proffil cyhoeddus trwy ddefnyddio'r opsiwn chwilio isod. Os nad ydyn nhw'n ymddangos ar y rhestr, yna dydyn nhw ddim wedi cofrestru ar gyfer yr her eto.
Start typing for a list of schools.
Drwy annog ysgol eich plentyn i gofrestru, rydych chi'n helpu i greu amgylchedd hwyliog a gweithgar sy'n fuddiol i'ch plant, staff a'r gymuned ehangach. Cofiwch, dim ond ysgolion all gofrestru ar gyfer Stroliwch a Roliwch. Ni all rhieni a gofalwyr gofrestru'n uniongyrchol
- Lawrlwythwch y Llythyr Rhiant/Gofalwr a'i rannu gyda'ch ysgol i roi gwybod iddyn nhw am yr her a sut i gymryd rhan.
- Rhannu’r Neges. Siaradwch â rhieni eraill, gofalwyr, athrawon neu Gymdeithas Rhieni ac Athrawon eich ysgol.
- Anogwch eich plant i gymryd rhan trwy gerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i'r ysgol yn ystod yr her a helpu eu hysgol i ddringo i fyny’r bwrdd arweinwyr!
- Does dim angen cofnodi siwrneiau eich hun, bydd yr ysgol yn gofalu am hynny.
- Rydyn ni yma i helpu: Mae ein canllaw Tips Gwych a'n hadnoddau yn ei gwneud hi'n hawdd cychwyn arni a chadw'r momentwm i fynd.
- Gwnewch y daith i'r ysgol yn hwyl: Rhowch gynnig ar ein hadnodd Bingo Taith Ysgol am ddim.
- Rhannwch eich stori: Byddem wrth ein bodd yn clywed gan rieni a gofalwyr sy'n cefnogi Stroliwch a Roliwch. Anfonwch e-bost at bigwalkandwheel@walkwheelcycletrust.org.uk os hoffech chi rannu eich stori. Gallech hefyd bostio ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #StroliwchARoliwch #BigWalkandWheel
Mae Bws Beiciau yn ffordd hwyliog i deuluoedd feicio i'r ysgol gyda'i gilydd, gan fagu hyder ar y ffyrdd a llawer mwy. Mae gan ein pecyn cymorth am ddim bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.