Mwy o gwestiynau? Cysylltwch â thîm Stroliwch a Roliwch Sustrans: bigwalkandwheel@sustrans.org.uk
Cofrestru / Mewngofnodi
Sut dylwn i gofrestru fy ysgol?
Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw cwblhau manylion eich ysgol ar dudalen gofrestru Stroliwch a Roliwch Sustrans.
Beth yw rhif cyfeirnod DfE / SEED / Inst? (Bydd angen hwn arnoch i gofrestru)
Mae gan ysgolion Cymru a Lloegr rif DfE saith digid. Mae wedi’i ffurfio o rif awdurdod lleol y rhif (tri digid) wedyn ei rif sefydliad (pedwar digid). Gallwch chwilio amdano yma, neu holwch swyddfa eich ysgol.
Mae gan ysgolion yn yr Alban rif SEED saith digid. Gallwch chwilio amdano yma, neu holwch swyddfa eich ysgol.
Mae gan Ysgolion Gogledd Iwerddon Rif Cyfeirnod Inst saith digid. Gallwch chwilio amdano yma, neu holwch swyddfa eich ysgol.
Os nad oes gennych rif DfE/SEED/Inst Ref oherwydd mai meithrinfa, ysgol newydd neu academi ydych chi, anfonwch ebost atom i bigwalkandwheel@sustrans.org.uk
Rhiant/cydlynydd teithio ysgol wyf fi. Allaf i gofrestru fy ysgolion ar eu rhan?
Fe gewch gynnig helpu eich ysgolion i gofrestru, ond bydd angen i aelod o staff yr ysgol gofrestru gan y bydd gofyn iddyn nhw fewngofnodi a chofnodi eu canlyniadau bob dydd.
Sut mae newid/ailosod fy nghyfrinair, neu gael ei anfon ataf os byddaf wedi ei anghofio?
Ar y dudalen mewngofnodi mae yna opsiwn i ailosod eich cyfrinair. Y cwbl mae angen ichi ei wneud yw clicio ar ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair’.
Rwy’n cael trafferth mewngofnodi. Beth ddylwn ei wneud?
Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a ddefnyddioch i gofrestru’ch ysgol a’r cyfrinair a ddefnyddioch wrth gofrestru.
Weithiau mae problemau gyda’r cysylltiad â’r rhyngrwyd felly mae’n werth rhoi ambell gynnig arni. Os byddwch yn parhau i gael trafferth, ebostiwch bigwalkandwheel@sustrans.org.uk am gymorth.
A gaiff athrawon unigol fewngofnodi ar yr un pryd?
Cânt, fe gaiff athrawon unigol fewngofnodi ar yr un pryd gan ddefnyddio’r un manylion mewngofnodi. Dim ond un set o fanylion mewngofnodi sydd ar gyfer pob ysgol, felly bydd angen rhannu’r manylion hyn gydag unrhyw un sydd am gael mynediad i gyfrif Stroliwch a Roliwch eich ysgol.
Sut allaf i osod manylion dosbarthiadau unigol os byddaf yn cofrestru fel ysgol?
- I osod dosbarthiadau unigol ar eich cyfrif, yn gyntaf, mewngofnodwch i’ch cyfrif.
- Ar dudalen hafan eich ysgol, dewiswch y botwm ‘rheoli dosbarthiadau eich ysgol’.
- Teipiwch enw’r dosbarth a dewiswch ‘ychwanegu’r dosbarth hwn’.
- Ailadroddwch y camau hyn ar gyfer pob dosbarth y dymunwch eu hychwanegu.
- Yn hytrach nag ychwanegu dosbarthiadau, gallwch ychwanegu grwpiau blwyddyn neu’r ‘ysgol gyfan’.
Cyfranogi
Pwy sy’n cael cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans?
Caiff disgyblion yn HOLL ysgolion y Deyrnas Unedig gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans (a bwrw fod ganddynt rif cyfeirnod DfE, SEED neu Inst. – beth yw’r rhain?)
Beth sy’n cyfrif yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans?
Mae siwrneiau cerdded, siwrneiau mewn cadeiriau olwynion, siwrneiau sgwter a siwrneiau beicio i’r ysgol oll yn cyfrif yn her Stroliwch a Roliwch Sustrans.Caiff ysgol/grŵp blwyddyn/dosbarth gofnodi un siwrne egnïol fesul disgybl fesul diwrnod o’r her. Dylai hyn fod ar gyfer y siwrne i’r ysgol bob dydd.
I’r rhai sy’n parcio ac yn cerdded/olwyno, gellir cofnodi eu siwrne i’r ysgol os yw’r rhan o’r siwrne sy’n ddull teithio egnïol yn parhau o leiaf 10 munud.
Pam nad oes opsiwn i gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans drwy wneud siwrneiau egnïol neu weithgareddau corfforol eraill?
Fe wnaethom gyflwyno ffyrdd eraill o gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans mewn ymateb i’r pandemig Covid-19 i ganiatáu i’r rhai a oedd yn dysgu o bell neu na allant wneud siwrne egnïol i’r ysgol.
Mewn ymateb i adborth gan ysgolion, rydym wedi penderfynu symleiddio’r her eleni a chanolbwyntio ar hyrwyddo siwrneiau egnïol i’r ysgol yn unig. Felly, dim ond cerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i’r ysgol sy’n cyfrif yn Stroliwch a Roliwch Sustrans.
Rydym wedi creu nifer o adnoddau, yn cynnwys cynlluniau gwersi, i’w defnyddio mewn ysgolion i sicrhau bod pawb yn gallu teimlo eu bod yn rhan o’r her yn ystod Stroliwch a Roliwch Sustrans.
Ar ben hynny, rydym yn canolbwyntio ar helpu ysgolion a theuluoedd i oresgyn y rhwystrau sy’n atal disgyblion rhag gwneud siwrneiau egnïol i’r ysgol. Gweler ein canllaw cynhwysiant am fwy o wybodaeth.
Beth yw’r categorïau?
Mae yna dri chategori yn her 2023:
- ysgol gynradd fach (hyd at 250 disgybl)
- ysgol gynradd fawr (250+ disgybl)
- ysgolion uwchradd
Bydd y pum ysgol sydd ar frig y byrddau arweinwyr ar gyfer pob un o’r categorïau hyn yn derbyn tystysgrif Stroliwch a Roliwch Sustrans 2023 ecsgliwsif wedi’i fframio.
Beth os byddaf yn cofrestru fel dosbarth, ond yn nes ymlaen mae’r ysgol gyfan eisiau cofrestru?
Gallwch newid y gosodiadau tan ddyddiad dechrau’r gystadleuaeth.
Os bydd eich ysgol gyfan yn dymuno cymryd rhan, gallwch newid eich gosodiadau a chofrestru fel ysgol drwy glicio ar ‘fy ngosodiadau’ ar dudalen hafan eich ysgol.
Ysgol ADY ydym ni. A gawn ni gymryd rhan?
Cewch, caiff ysgolion ADY gystadlu hefyd. Os gall eich disgyblion gerdded, defnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio i’r ysgol, yna gallwch gofnodi’r siwrneiau hyn ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans, gan nodi’r dull teithio a ddefnyddiwyd, e.e. ‘Siwrneiau plentyn (beic)’.
Ysgol breswyl ydym ni, a gawn ni gymryd rhan?
Er mwyn cymryd rhan, gall disgyblion nad ydynt yn rai preswyl deithio i’r ysgol drwy gerdded, gan ddefnyddio cadair olwynion, sgwtera a beicio. Os bydd disgyblion preswyl yn cerdded, olwyno, sgwtera neu feicio am fwy na 10 munud o’u llety preswyl i’w gwersi, yna byddant yn cael cofnodi siwrne hefyd.
A yw’n bosibl cymryd rhan ar ddim ond rhai o ddyddiau’r her?
Caiff ysgolion gymryd rhan am ddim ond pum niwrnod o’r gystadleuaeth, neu fe gânt gofnodi siwrneiau ar bob un o’r 10 diwrnod. Dewisir eich pum niwrnod gorau ar gyfer eich sgôr derfynol, fodd bynnag, po fwyaf o ddyddiau rydych chi’n cymryd rhan, mwyaf yw eich potensial i gofnodi cyfraddau cyfranogiad uwch a’r gorau yw eich siawns o ennill yn ein raffl wobrau ddyddiol.
Sut gallaf i weld pa ysgolion yn fy ardal sy’n cymryd rhan?
Mae yna restr o ysgolion sydd wedi cofrestru ar y wefan, a gallwch chwilio’r rhestr yn nhrefn yr wyddor, yn ôl enw’r ysgol neu yn ôl yr Awdurdod Lleol. Neu gallwch edrych ar y map o’r ysgolion sy’n cymryd rhan.
Sut mae ysgolion yn cofnodi eu siwrneiau cerdded, mewn cadair olwyn, sgwtera a beicio unwaith bydd yr her wedi dechrau?
Sicrhewch eich bod yn lawrlwytho taflenni cofnodi dosbarth ar gyfer pob un o’ch dosbarthiadau o’r dudalen adnoddau. Caiff athrawon gofnodi siwrneiau a gweithgareddau eu dosbarth ar y taflenni hyn.
Bydd ysgolion wedyn yn mewngofnodi i dudalen hafan eu hysgol ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans bob dydd ac yn cofnodi’r nifer o siwrneiau cerdded, cadair olwyn, sgwter neu feic i’r ysgol.
Gall hyrwyddwr ysgol sy’n casglu’r taflenni cofnodi gan bob dosbarth/blwyddyn gofnodi’r siwrneiau, neu gall athrawon unigol eu cofnodi.
Sut gallaf gofnodi neu olygu siwrneiau?
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif Stroliwch a Roliwch.
- Ar dudalen hafan eich ysgol, dewiswch y botwm ‘cofnodi eich siwrne’.
- Cofnodwch siwrneiau/gweithgareddau eich dosbarth/ysgol ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Rhaid rhoi gwerth ym mhob cell er mwyn cadw’r siwrneiau. Os nad oes gennych un o’r dulliau teithio llesol, er enghraifft, sgwtera, yna nodwch sero yn y gell. I olygu’r canlyniadau a gofnodwyd ar y diwrnod hwnnw, cliciwch ar rif y dydd hwnnw, e.e. un, a bydd yn caniatáu ichi olygu’r rhifau. Unwaith bydd y sgorau wedi’u nodi a’r terfyn amser hanner dydd wedi mynd heibio ar y diwrnod canlynol, ni ellir newid y canlyniadau.
Pa bryd yw fy nghyfle olaf i gofnodi siwrneiau?
Gellir ychwanegu siwrneiau egnïol hyd at hanner dydd, ddydd Llun 3 Ebrill 2023. Fodd bynnag, fe’ch anogwn i gofnodi eich holl siwrneiau egnïol/gweithgareddau corfforol erbyn hanner dydd y diwrnod canlynol yn ystod yr her er mwyn iddynt ymddangos ar y byrddau arweinwyr dyddiol ac i chi gael eich cynnwys yn y raffl wobrau ddyddiol.
Gellir ychwanegu siwrneiau egnïol ar ôl yr amser cau, sef hanner dydd, os nad oes siwrneiau eraill wedi cael eu hychwanegu i’r dosbarth hwnnw – ar y diwrnod rydych yn cofnodi data ar ei gyfer.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cofrestru siwrneiau fy ysgol cyn y terfyn amser o hanner dydd bob dydd?
Caiff ysgolion tan hanner dydd ddydd Llun 3 Ebrill 2023 i gofnodi eu data, pe byddent yn ei chael yn anodd cofnodi eu siwrneiau’n ddyddiol. Os caiff yr holl siwrneiau eu cofnodi ar 3 Ebrill (yn hytrach nag yn ddyddiol), yna dim ond tuag at eich safle yn y ras gyflawn fydd y sgorau’n cyfrif, ac nid at eich safle dyddiol, ac ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y rafflau gwobrau dyddiol.
Sut mae’r raffl wobrau dyddiol yn gweithio?
I gael eich cynnwys yn y raffl wobrau, rhaid ichi gofnodi eich siwrneiau ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans erbyn hanner dydd ar y diwrnod ysgol canlynol
Er enghraifft, i gael eich cynnwys yn y raffl wobrau ar Ddiwrnod 1 (dydd Llun 20 Mawrth) rhaid i’r holl siwrneiau gael eu cofnodi erbyn hanner dydd ar Ddiwrnod 2 (dydd Mawrth 21 Mawrth).
Bydd enillydd gwobr ddyddiol yn cael ei ddewis ar hap bob dydd o blith yr holl ysgolion/dosbarthiadau sydd wedi cofnodi o leiaf 15% o’u disgyblion yn cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i’r ysgol.
Ni all ein hysgol gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans gan nad oes llwybrau diogel i ddisgyblion deithio’n egnïol i’r ysgol oherwydd ffyrdd prysur / dim llwybrau troed ac ati, beth allwn ni ei wneud?
Rydym yn ymwybodol na all pob ysgol gofnodi siwrneiau teithio egnïol oherwydd, yn anffodus, bod diffyg llwybrau diogel o amgylch eu hysgol. Fodd bynnag, fe’ch anogwn i gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans beth bynnag, gan ddefnyddio’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau i ddysgu am deithio llesol.
Argymhellwn hefyd i’ch ysgol wneud adduned i gymryd rhan yn Arolwg Mawr y Strydoedd Sustrans. Dyma adnodd cwricwlaidd cyffrous sydd ar gael am ddim, sy’n galluogi disgyblion i archwilio’r ardal o gwmpas eu hysgol a chreu maniffesto ar sut i wneud eu strydoedd yn fwy diogel ac yn wyrddach. Gellir defnyddio’r maniffestos hyn wedyn i lobïo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig ar lefel genedlaethol a lleol i wneud i’r newidiadau hyn ddigwydd.
Adnoddau
A fydd adnoddau ar gael?
Bydd, rydym wrthi’n eu datblygu. Maen nhw ar gael yma.
Canlyniadau
A yw’r gystadleuaeth yn deg i ysgolion bach/mawr eu maint?
Ydi, mae’r gystadleuaeth yn deg i ysgolion o bob maint.
Sut caiff y canlyniadau eu cyfrifo ar gyfer pob ysgol bob dydd?
Po fwyaf y nifer o ddisgyblion sy’n cerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i’r ysgol bob dydd, yna gorau fydd eich canlyniad. Cyfrifir y sgorau fel canran o’ch disgyblion sy’n cymryd rhan.
DALIER SYLW: Rhaid nodi niferoedd yr ysgol neu’r dosbarth yn gywir, felly gwiriwch fod eich un chi’n gywir cyn i’r gystadleuaeth ddechrau drwy fynd i’r dudalen gosodiadau ar gyfer eich ysgol.
Sut allaf i weld sut hwyl mae fy ysgol yn ei gael arni?
Yn ystod yr her, bydd safleoedd ysgolion ar gael yn gyhoeddus ar y wefan Gan fod ysgolion yn gallu cofnodi eu canlyniadau’n ddyddiol neu ar ddiwedd yr her, bydd modd cael darlun mwy cywir ar ddiwedd yr her.
Beth fydd yn digwydd os bydd sgôr gyfartal?
Pe bai sgôr gyfartal, bydd yr ysgolion ar frig y bwrdd arweinwyr yn cael eu cyhoeddi’n enillwyr ar y cyd.
Sut fyddaf i’n gwybod os yw fy ysgol wedi ennill gwobr ddyddiol?
Bydd Sustrans yn anfon ebost at bob ysgol sy’n ennill gwobr.
Sut fyddaf i’n gwybod os yw fy ysgol wedi ennill y gystadleuaeth?
Bydd y canlyniadau’n cael eu cadarnhau a’u cyhoeddi ar y wefan ar ddiwedd yr her. Bydd hyn yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 24 Ebrill, ar ôl Gwyliau’r Pasg.
Dyfernir tystysgrifau Stroliwch a Roliwch Sustrans wedi’u fframio i’r rhai yn y pum safle uchaf ar y byrddau arweinwyr cenedlaethol.
P’un ai gwnaethoch chi ennill ai peidio, gall pob ysgol a dosbarth argraffu eu tystysgrif Stroliwch a Roliwch Sustrans eu hunain; gellir ei lawrlwytho o’r dudalen adnoddau ar wefan Stroliwch a Roliwch Sustrans.