Prif noddwr

Cynhelir Stroliwch a Roliwch Sustrans 24 Mawrth – 4 Ebrill 2025

676 o ysgolion wedi cofrestru

234,806 o ddisgyblion yn cymryd rhan

Cofrestrwch eich ysgol nawr ar gyfer her cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i’r ysgol fwyaf y DU.

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn ysbrydoli disgyblion i wneud gwahaniaeth iddyn nhw eu hunain, eu cymuned, a’u byd drwy wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol.

Mae Stroliwch a Roliwch Sustrans yn agored i holl ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys ysgolion ADY. Mae cymryd rhan am ddim ac mae gwobrau dyddiol i’w hennill.

Ar bob diwrnod yr her, bydd disgyblion yn cystadlu i weld pwy all gael y ganran uchaf o’u disgyblion yn cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol. Bydd pum niwrnod gorau eich ysgol yn penderfynu ar eich safle terfynol, ond gallwch gofnodi siwrneiau bob un o’r 10 niwrnod, pe dymunech.

Faint o siwrneiau llesol fydd eich disgyblion yn eu gwneud?

Mae’r adnoddau am ddim yn cynnwys:

  • lluniau gwersi sy’n cysylltu â’r cwricwlwm
  • Poster
  • Canllaw cynhwysiant
  • Cyflwyniad ar gyfer gwasanaeth boreol ysgolion

Bydd cyfle i ysgolion ennill gwobrau dyddiol yn cynnwys offer ac ategolion os bydd dros 15% o’u disgyblion yn cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol ar y diwrnod hwnnw yn yr her.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at: bigwalkandwheel@sustrans.org.uk

Os hoffech ddefnyddio Stroliwch a Roliwch Sustrans fel cyfle i godi arian ar gyfer Sustrans a’n helpu i alluogi miloedd o blant i gerdded, defnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio i’r ysgol bob dydd, cysylltwch â ni ar supporters@sustrans.org.uk a byddwn yn darparu cefnogaeth ac arweiniad.

Neu os hoffech ddysgu mwy am Sustrans a chyfrannu i’n helpu i gyflawni ein uchelgais, gallwch wneud hynny yma.