Cynlluniau gwersi ysgolion cynradd
Gweler ein dogfen trosolwg 10 diwrnod am drosolwg o’r 10 cynllun gwers dyddiol ar gyfer ysgolion cynradd
Diwrnod 3 Aer Anhygoel

Dysgwch beth sy’n achosi llygredd aer o gwmpas eich ysgol gyda’r gwersi archwilio’r aer anhygoel hyn. Cynigir her ar dri lefel. Gall yr archwiliad gynnwys gwaith maes neu gellir ei wneud gan ddefnyddio’r fideos a ddarperir.
- Fideo cyflwyno diwrnod 3 – dysgu am effaith trafnidiaeth ar ansawdd aer
- Cynllun gwers Lefel 1 – siart tali dulliau trafnidiaeth
- Cynllun gwers Lefel 2 – rhowch ragfynegiad am lygredd aer ar brawf mewn dau leoliad gwahanol
- Cynllun gwers Lefel 3 – rhowch ragfynegiad am lygredd aer ar brawf mewn dau leoliad gwahanol
- Fideos o draffig broaidd
- Fideos o draffig trefol
Diwrnod 7 Siwrneiau anhygoel o bedwar ban byd

Helpwch i feithrin empathi ac ymwybyddiaeth fyd-eang drwy feddwl am y teithiau i’r ysgol a wneir gan blant o bedwar ban byd. Anogwch ddychymyg, creadigrwydd a datblygwch sgiliau darlunio a/neu wneud fideos drwy ofyn i ddisgyblion greu siwrne ddychmygol wedi’i ysbrydoli gan yr hyn y gwnaethant ei ddysgu.