Defnyddiwch ddata’r Adran Drafnidiaeth i archwilio tueddiadau traffig ffyrdd cenedlaethol a rhanbarthol. Cyfrifwch allyriadau carbon deuocsid y daith i’r ysgol ar gyfer amrywiol ddulliau trafnidiaeth.
Anogwch ddisgyblion i gymryd perchnogaeth o’u dyfodol a dychmygu byd y buasent yn falch o fyw ynddo. Mae’r wers yn cynnwys fideo gan yr awdur Rob Hopkins, sefydlydd y mudiad Transition, sy’n mynd am dro drwy 2030
Helpwch i feithrin empathi ac ymwybyddiaeth fyd-eang drwy feddwl am y teithiau i’r ysgol a wneir gan blant o bedwar ban byd. Anogwch ddychymyg, creadigrwydd a datblygwch sgiliau darlunio a/neu wneud fideos drwy ofyn i ddisgyblion greu siwrne ddychmygol wedi’i ysbrydoli gan yr hyn y gwnaethant ei ddysgu.
Defnyddiwch y cardiau Trymps Strydoedd yn y gweithgaredd chwarae rôl hwn i gyflwyno disgyblion i’r ymyraethau sy’n gallu annog teithio llesol. Codwch ymwybyddiaeth o’r heriau y mae’n rhaid eu goresgyn er mwyn cyflawni newid drwy weithio drwy’r senarios a ddarperir.