Gwobrau dyddiol i ysgolion
Bydd pob ysgol yn cael eu cynnwys mewn rafflau dyddiol i ennill gwobrau os bydd mwy na 15% o’ch ysgol yn cerdded, defnyddio cadair olwyn, yn sgwtera neu’n beicio i’r ysgol fesul diwrnod o’r her.
WJ Markings- Diwrnod 6 Link
WJ yw’r arbenigwyr arweiniol ym myd busnes marcio ffyrdd, a’u gweledigaeth yw ’Darparu Gwasanaeth Cynaliadwy Eithriadol’.
Dyma maen nhw am ei roi i un ysgol gynradd:
- Marciau buarth ysgol pwrpasol, fydd yn cael eu dewis gan y plant i gael marciau sy’n cynrychioli eu hysgol orau. Bydd y marciau creadigol yma yn creu cyfleoedd dysgu egnïol fydd yn bywiogi amgylchedd yr ysgol.
Mae WJ yn arbenigwyr gosod marciau ffyrdd parhaol a dros dro, stydiau ffyrdd ac arwynebeddau ffrithiant uchel wedi’u lliwio, yn ailwynebu arwynebeddau a gosod camerâu cyflymder cyfartalog. Mae dull cydweithredol y cwmni hwn yn canolbwyntio ar greu gwerth i’w cymunedau o randdeiliaid eu hunain, yn lleol ac yn genedlaethol, a thrwy eu menter Thinking Community, maen nhw wedi ysbrydoli mwy na 42,000 o fywydau yn y 4 blynedd ddiwethaf.
Dilynwch WJ Markings: Facebook / Twitter / Instagram / LinkedIn / Gwefan
Little Bike Company- Diwrnod 4 Link
Manwerthwr a dosbarthwr beiciau ysgafn i blant yw’r Little Bike Company. Mae’r Little Bike Company yn noddi’r wobr ganlynol i un ysgol:
2 x Feic 24” Woom 5-hybrid
Lansiwyd cwmni beiciau Woom yn 2013, ac mae’r cwmni Awstriaidd yn arbenigo mewn beiciau, ategolion a dillad beicio o ansawdd uchel i blant. Mae beiciau Woom yn ysgafn iawn, ac wedi’u dylunio yn ôl anghenion pobl ifanc. Eu beiciau nhw yw un o’r casgliadau beiciau sy’n gwerthu orau ledled Ewrop a’r UDA erbyn hyn.
Sefydlwyd y Little Bike Company yn 2012, a’r busnes teulu hwn yw mewnforiwr a dosbarthwr ecsgliwsif beiciau Woom yn y Deyrnas Unedig. Crëwyd y Little Bike Company er mwyn galluogi mwy o blant i fwynhau manteision beicio, drwy gynnig cyfres o feiciau ysgafn a gaiff eu cynhyrchu i’r safon uchaf.
Dilynwch The Little Bike Company: Instagram / Facebook / www.thelittlebikecompany.co.uk /
Micro Scooters- Diwrnod 5 Link
Micro Scooters yw’r brand arobryn sydd wedi gweddnewid y daith i’r ysgol i’r daith sgwtera wych rydyn ni’n gyfarwydd â hi erbyn hyn! Mae Micro’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo sgwtera ar y daith i’r ysgol fel dull teithio sy’n gyflymach, yn iachach, yn wyrddach, yn fwy diogel, ac, yn bwysicaf oll, yn fwy o hwyl.
Micro Scooters, yn cynnig gwobrau ardderchog i ysgolion buddugol a’u cefnogwyr yn ystod her y Stroliwch a Roliwch Sustrans.
Mae’r gwobrau yn cynnwys:
- 10 o Micro Scooters ar gyfer ysgolion cynradd
- Dau Micro Scooter ar gyfer ysgolion uwchradd
- Hamperau o 35 o ategolion Micro ar gyfer pedair ysgol
Mae sgwteri Micro Scooters yn adnabyddus am ddiogelwch a chryfder eu cynnyrch. Yn wydn, yn syml ac yn llawn hwyl, mae Micro Scooters yn trawsnewid y ffordd mae plant ac oedolion yn darganfod, mwynhau ac archwilio’r byd.
Dilynwch Micro Scooters: Facebook / Twitter / Instagram / www.micro-scooters.co.uk /
EarthSense - Diwrnod 3 Link
Arbenigydd blaenllaw mewn atebion ansawdd aer yw EarthSense, ac mae’n darparu caledwedd a meddalwedd i droi’r anweladwy’n weladwy. Mae ei wasanaethau’n darparu mewnwelediad ar ffynonellau llygredd aer amgylchynol ac yn darparu data y gellir ei ddefnyddio i sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r byd yn anadlu aer glân.
Un monitor ansawdd aer Zephyr® am ddiwrnod i archwilio ffynonellau llygredd aer o amgylch yr ysgol. Bydd hwn yn cael ei ategu gyda gweithdy a gynhelir gan arbenigwyr ansawdd aer EarthSense, a fydd yn addysgu disgyblion am ffynonellau llygredd aer, pam mae llygredd aer yn ddrwg i iechyd pobl, a beth all disgyblion ei wneud i leihau eu hallyriadau.
Mae gwasanaethau arobryn EarthSense yn tarddu o 15 mlynedd o ymchwil yn yr University of Leicester, ac maent yn cael eu defnyddio rownd y byd i ddarparu’r atebion y mae eu hangen ar ysgolion, awdurdodau lleol a chwmnïau masnachol er mwyn gweithio tuag at aer glân.
Gyda mewnwelediadau ansawdd aer sy’n arwain y farchnad, gall cwsmeriaid greu dinasoedd doethach, glanach, drwy ddysgu am lefelau llygredd aer, ei ffynonellau, tueddiadau a mwy, gan ddefnyddio’r data hwn i liniaru llygredd aer. Mae hyn yn sicrhau cymunedau iachach heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol!
Broxap - Diwrnod 9 Link
Broxap Ltd. yw un o ddylunwyr, cynhyrchwyr a gosodwyr mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig.
Mae Broxap yn cynnig mannau parcio lliwgar i ddwy ysgol gynradd fuddugol. Bydd yr ysgolion buddugol yn cael dewis lliwiau’r raciau beiciau i ddarparu man parcio hwyliog, dengar ar gyfer sgwteri a beiciau eu disgyblion.
- un rac beiciau, yr ysgol i ddewis y lliw
- un rac sgwteri, yr ysgol i ddewis y lliw
Mae Broxap yn gweithio gydag adrannau Addysg, Awdurdodau Lleol, Penseiri a Chontractwyr ymysg eraill, ac maen nhw wedi gwneud enw da fel darparwr a gosodwr cysgodfeydd, standiau a raciau beiciau ledled y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd lawer. Mae Broxap yn fusnes teuluol sy’n cynnig nwyddau o safon sy’n addas i gyllideb y prynwr ac mae’n cyflenwi ei wasanaeth yn brydlon.
Dilynwch Broxap: Twitter / www.broxap.com /
Extreme Mountain Bike Show - Diwrnod 10 Link
Yr Extreme Mountain Bike Show yw’r Tîm pennaf yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop am arddangos Beicio Mynydd, Treialon/BMX, dan arweiniad Danny Butler, sydd wedi bod yn Bencampwr Treialon Beicio Mynydd Prydeinig ac Ewropeaidd droeon.
Mae’r Extreme Mountain Bike Show yn rhoi’r canlynol yn wobr i un ysgol:
- Sioe arddangos safonol yn cynnwys 30 munud o driciau a styntiau syfrdanol.
Mae tîm yr Extreme Mountain Bike Show yn cynnig adloniant byw, eithafol, diffwdan. Mae ganddynt fwy na 10 mlynedd o brofiad, ac maen nhw’n arbenigo mewn arddangos triciau a styntiau mewn sioeau teuluol, digwyddiadau byw, darllediadau ac, wrth gwrs, ysgolion! Maen nhw’n defnyddio eu hoffer sioe arbenigol eu hunain, sy’n cynnwys goleuadau a chyflenwad pŵer solar, a’r Extreme Mountain Bike Show yw’r unig Dîm Beicio Mynydd ecogyfeillgar yn y Deyrnas Unedig.
Dilynwch Extreme Mountain Bike Show: Facebook / Twitter / Instagram / Website /
Brightwayz - Diwrnod 2 Link
Brightwayz yw eich siop un stop ar gyfer holl adnoddau eich ymgyrch teithio’n egnïol, yn cynnwys sticeri, pensiliau ac ategolion llachar wedi’u teilwra cyn eu printio, ynghyd â storfeydd sgwteri, baneri ac arwyddion. Ar ben hynny, fel menter gymdeithasol, mae 100% o’r elw o’u gwerthiant yn cael ei rhoi’n ôl i mewn i’r sefydliad i gefnogi eu prosiectau teithio llesol.
Maen nhw’n rhoi dwy wobr wych i ysgolion sy’n ennill yn ystod her Stroliwch a Roliwch.
Y gwobrau yw:
1 x Scooterpod ar gyfer ysgol gynradd
1 x Pecyn Gwobrwyo Teithio Egnïol ar gyfer ysgol gynradd.
Mae Brightwayz yn gyfarwydd i lawer o ysgolion ac awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig fel Brightkidz; yn hyrwyddo teithio dyddiol diogel, egnïol, cynaliadwy drwy eu nwyddau, eu prosiectau a rhannu gwybodaeth. Ond nawr ei bod yn ei hugeinfed flwyddyn, mae’r fenter gymdeithasol arobryn hon wedi newid ei henw i Brightwayz ac mae’n darparu adnoddau ymgyrchu teithio egnïol dengar i bob oedran. P’un ai cefnogi ysgol, cymuned neu weithle i hyrwyddo teithio egnïol yr ydych chi, mae eu nwyddau yma i helpu i wneud llwyddiant o’ch holl ymgyrchoedd.
Cyclehoop - Diwrnod 7 Link
Mae Cyclehoop yn creu, yn darparu ac yn rheoli parcio beiciau a seilwaith beiciau arloesol. Mae tîm Cyclehoop yn ymroddedig i wneud lleoedd yn fwy cyfeillgar i feiciau.
Gan fod anghenion pob ysgol yn wahanol, mae Cyclehoop yn cynnig dewis un o blith y gwobrau isod i’r enillydd.
• 1 x rac beiciau Toast Rack ar gyfer 10 beic, gyda phaent côt powdr yn eich dewis o liw
• Gwerth £600 o feiciau i greu llyfrgell beiciau i ddisgyblion eu defnyddio
• Pecyn bws beiciau cychwynnol (dillad llachar gyda brandio’r ysgol, clychau beiciau, helmedi, goleuadau, pecyn tŵls)
Mae Cyclehoop yn creu nwyddau arobryn, wedi’u dylunio gan feicwyr, i annog pobl i wneud y newid a phrofi buddion reidio beic.
Mae’r tîm yn credu y bydd creu mannau sy’n hwyliog ac yn gyfeillgar i feiciau yn creu dyfodol iach a chynaliadwy.
Mae Cyclehoop yn gweithio gydag ysgolion i roi cyngor ar, a darparu parcio, cysgodfeydd, ac ategolion beiciau, gan helpu pobl ifanc i gofleidio beicio.
Nodwch y cod ‘HoopBig’ wrth gyrraedd y dudalen talu i dderbyn disgownt o 10% ar archebion a wneir cyn 30 Mai 2023.
Dilynwch Cyclehoop: Facebook / Instagram / Twitter / LinkedIn / neu gallwch gofrestru i dderbyn eu newyddlen /
Frog Bikes - Diwrnod 8 Link
Mae Frog Bikes yn wneuthurwr arobryn a blaenllaw o feiciau ysgafn i blant. Bydd Frog Bikes yn rhoi beic i un ysgol gynradd:
- Beic hybrid Frog 53 gwyrdd, gwerth £425!
Mae’r beic 20” Frog 53 yn feic amlbwrpas delfrydol, gyda gêrs, sy’n addas ar gyfer plant 5 – 7 oed. Mae’r beic hybrid gwych hwn ar gyfer plant yn cynnwys ffrâm alwminiwm ysgafn, gwydn. Mae’n pwyso 8.15kg, sy’n ei wneud yn hawdd i’w drin ar ffyrdd, palmentydd, llwybrau camlesi a llwybrau’r goedwig.
Mae’r gyfres ergonomig hon, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer plant, yn cynnwys: beiciau balans, beiciau pedalau cyntaf, beiciau hybrid, beiciau ffordd, beiciau dinas, beiciau mynydd a beiciau trac, yn darparu ar gyfer pob oedran, lefel gallu a disgyblaeth. Mae pob beic Frog wedi’i ddylunio gyda phlant yn flaenoriaeth, gan sicrhau bod pob cydran a phob manylyn ar ein beiciau’n helpu i fagu hyder mewn beicio o’r cychwyn cyntaf. Maen nhw’n cynnig y beiciau alwminiwm ysgafn gorau, sy’n gwbl barod gyda chydrannau gan wneuthurwyr blaenllaw sy’n ystyriol o oedran y beiciwr.
Ddysgu mwy, ewch draw i’w tudalennau Partner.
Dilynwch Frog Bikes: Facebook / Twitter / Instagram / www.frogbikes.com /
Ordnance survey - Diwrnod 1 Link
Mae Ordnance Survey, gwasanaeth mapio Prydain Fawr, yn ei gwneud yn syml i bobl fyw bywyd egnïol yn yr awyr iach, byw’n hirach a chael mwy allan o bob diwrnod.
Maen nhw’n cynnig mapiau bach wedi’u teilwra, gyda’ch ysgol chi yn y canol, i’ch dosbarth cyfan! Mapiau A3 yw’r rhain, sy’n plygu i ffitio yn eich poced a’ch helpu i gynllunio mwy o ffyrdd i fynd i’r ysgol ac oddi yno, a mentro allan ar fwy o anturiaethau yn eich ardal leol.
Yma yn Ordnance Survey, rydyn ni’n ysbrydoli pobl i ddarganfod yr awyr agored ym Mhrydain gyda’n mapiau eiconig ar bapur, ar ffonau symudol, ac ar eich cyfrifiadur. Maen nhw oll wedi’u cynllunio i wneud yr awyr agored yn fwy pleserus, yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel. Mae ap OS Maps yn rhoi fersiynau digidol o 607 o fapiau Explorer a Landranger OS ar gyfer Prydain Fawr i gyd yn eich poced. Mae ein mapiau papur eiconig wedi’u hategu gan amrywiaeth o nwyddau OS sy’n ehangu bob amser, yn cynnwys llyfrau ac ategolion ar gyfer yr awyr agored, oll ar gael ar siop ar-lein yr Ordnance Survey ynghyd ag amrywiaeth o frandiau trydydd parti.