Prif noddwr

Gwobr Cyntaf i’r Felin

Trueform

Trueform

Mae Trueform, cwmni technoleg a gweithgynhyrchu arloesol, yn darparu cynhyrchion blaenllaw, datrysiadau peirianneg arbenigol a gwasanaethau cymorth maes ar gyfer pob dull o gludo teithwyr.

Gan weithredu'n rhyngwladol, mae gan Trueform gontractau gyda dinasoedd mawr ar gyfer dylunio, cynhyrchu, gosod a chynnal a chadw datrysiadau deallus safon premiwm ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus, Symudedd Deallus, Dinasoedd Clyfar, Dim Allyriadau a chyfathrebu Arddangos Digidol.

Y wobr yw cyfleuster storio beiciau ar gyfer ysgol gyda gwerth hyd at £30,000 i gynnwys:

  • Trueform i ymweld â'r ysgol i asesu capasiti, gofynion ac arolygu'r tir sydd ar gael
  • Dylunio'r cyfleuster diogel arfaethedig a chael cymeradwyaeth yr ysgolion
  • Dylunio peirianyddol, gweithgynhyrchu, gosod a rheoli'r cynllun
  • Cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r ysgol ar holl faterion y prosiect
  • Darparu unrhyw allweddi/cydrannau ychwanegol i’r ysgol
  • Cydgysylltu â Sustrans a'r ysgol ynglŷn â chyhoeddusrwydd a hyfforddiant beicio unwaith y bydd wedi'i osod

Ers ei ffurfio ym 1977, sefydlodd Trueform ei hun yn gyflym fel arweinydd yn y farchnad, gan ddarparu elfennau cyhoeddus hanfodol ar y stryd a seilwaith i gymudwyr, teithwyr a'r cyhoedd. Mae Trueform wedi darparu i nifer o ddinasoedd mwyaf a mwyaf blaengar y byd ac mae’r cwmni’n meddu ar wybodaeth helaeth a phrofiad rhyngwladol o fewn y sectorau bysiau, rheilffyrdd, trafnidiaeth gyflym bysiau, metro rheilffyrdd ysgafn, llywio cerddwyr a chludiant ar gyfer teithwyr awyr. Mae system cludiant cyhoeddus effeithiol, ddiogel, ddibynadwy a blaengar yn darparu hygyrchedd a symudedd i bawb, gan leihau tagfeydd, allyriadau nwyon tŷ gwydr a’n hôl troed carbon. Mae Trueform yn darparu atebion trafnidiaeth gyhoeddus deallus i fodloni'r gofyniad hwn.

Dilynwch Trueform: Gwefan / X / Instagram / Facebook /