Prif noddwr

Newid Dy Siwrne, Newid Dy Fyd!

A hoffech i’ch ysgol chi gymryd rhan mewn diwrnod dim gwisg ysgol, sêl teisennau, neu’r ddau?

Fe gewch chi ddiwrnod gwych yn codi arian ac yn cynnwys pawb.

Mae Diwrnod Newid Dy Siwrne, Newid Dy Fyd yn ffordd wych o gynnwys eich holl ddisgyblion yn Stroliwch a Roliwch Sustrans. Rydym yn awgrymu eich bod yn ei gynnal ar 24 Mawrth. Fodd bynnag, os na allwch chi gymryd rhan ar y diwrnod hwnnw, gallwch ddewis diwrnod arall yn ystod yr her.

Mae siwrneiau egnïol – p’un ai cerdded, sgwtera ai olwyno fyddwch chi – yn ffordd wych o gadw’n iach. Maen nhw’n dda i’r amgylchedd a gallant helpu i newid eich byd, ac rydym ni’n meddwl bod hynny’n rheswm i ddathlu!

Gobeithio bod eich disgyblion wedi bod yn cymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans gan ddysgu am y manteision hyn sy’n perthyn i deithio’n llesol ar yr un pryd, oherwydd rydym am ddathlu eu llwyddiannau nhw hefyd.

Gallwch ddewis defnyddio Diwrnod Newid Dy Siwrne, Newid Dy Fyd i godi arian i Sustrans. Dros y blynyddoedd, mae miloedd o blant ledled y Deyrnas Unedig wedi naill ai gwisgo i fyny neu gynnal sêl teisennau yn ystod her Stroliwch a Roliwch Sustrans. Mae pawb yn cael hwyl a sbri’n dysgu sut i newid eu siwrneiau a’u byd, gan godi arian i Sustrans a bwyta teisennau blasus ar yr un pryd.

Dewis pa ddigwyddiad yr hoffech ei gynnal

Dewiswch a ydych am gynnal sêl teisennau, diwrnod dim gwisg ysgol, neu’r ddau yn eich ysgol chi.

2. Dweud wrth rieni

Lawrlwythwch ein llythyr i’w anfon i rieni.

3. Anogwch y plant i wisgo/pobi rhywbeth o’u dewis nhw

Diwrnod dim gwisg ysgol:

  • Anogwch bawb yn eich ysgol i gymryd rhan.
  • Hoffem iddyn nhw wisgo rhywbeth o’u dewis nhw y maen nhw’n gyfforddus ynddo (gallai hyn olygu eu hoff het neu esgidiau rhedeg, eu hoff liw, neu hyd yn oed rhywbeth sy’n eu hatgoffa o’u hoff dîm chwaraeon).

Eu byd nhw yw hwn – maen nhw’n wych ac mae rhwydd hynt iddynt ddewis

Sêl teisennau:

  • Anogwch bawb yn eich ysgol i gymryd rhan.
  • Hoffem iddyn nhw bobi eu hoff beth a’i rannu gyda phawb (gallai hyn olygu eu hoff gwci gyda llwythi o naddion siocled, rholiau selsig, neu hyd yn oed deisen sbwng tair haen). Beth am darten beicwell!
  • Eu byd nhw yw hwn – iddyn nhw mae’r dewis o beth i’w bobi a’i werthu i’w cyfoedion (Er, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau alergeddau yn eich ysgol).

4. Gweithgareddau ychwanegol

Cofnodwch eich siwrneiau

ar wefan Stroliwch a Roliwch i ddarganfod eich sgôr derfynol.

5. Codi arian i Sustrans

Gofynnwch i’r holl ddisgyblion sy’n dewis gwisgo i fyny/prynu rhywbeth o’r sêl teisennau roi £1, neu os byddwch yn gwneud y ddau, £1 am bob un. Casglwch a chyfrannwch yr arian i Sustrans (manylion sut i wneud cyfraniad isod) neu gallwch ei ddefnyddio tuag at brosiectau teithiau iach eich ysgol.

Os dewiswch godi arian ar Ddiwrnod Newid Dy Siwrne, Newid Dy Fyd, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi!

Mae’r holl arian a godir i Sustrans yn caniatáu inni barhau i gynnal Stroliwch a Roliwch a bydd yn ein helpu i alluogi miloedd o blant i gerdded, defnyddio cadair olwyn, sgwtera neu feicio i’r ysgol bob dydd – drwy wneud y daith i’r ysgol yn fwy diogel ac yn iachach. Hoffem weld pob plentyn yn mwynhau siwrne iachach, hapusach a mwy diogel i’r ysgol.

Ewch i wefan Sustrans am fwy o wybodaeth amdanom ni.

Siec

Anfonwch siec sy’n daladwy i Sustrans, ynghyd ag enw a chyfeiriad eich ysgol i:


Tîm Gofal Cefnogwyr
Sustrans
2 Cathedral Square
College Green
Bryste
BS1 5DD

Neu gallwch wneud taliad ar-lein yn hawdd drwy ddefnyddio’r ddolen hon.

Hoffech chi dalu gan ddefnyddio dull gwahanol? Dim problem, anfonwch ebost at supporters@sustrans.org.uk