Cynnwys pawb
Cystadleuaeth teithio llesol rhwng ysgolion yw Stroliwch a Roliwch Sustrans. Rydym am gael cymaint o blant â phosibl yn cerdded, olwyno (defnyddio cadair olwyn), sgwtera neu’n beicio i’r ysgol.
Ac rydym am i gymaint o blant a phosibl ddysgu am fuddion teithio llesol. Rydym wedi darparu ffyrdd amgen i blant gymryd rhan yn y gystadleuaeth os yw’r rhwystrau penodol i gyfranogi yn eu hatal rhag gwneud siwrne egnïol i’r ysgol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cyfrif yn y gystadleuaeth i grwpiau penodol o blant yn unig. Gweler y pdf ffyrdd o gymryd rhan yn yr her am fwy o wybodaeth.
Mae angen i bob plentyn ysgol arall wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Cysylltwch â bigwalkandwheel@sustrans.org.uk i drafod cynhwysiant disgyblion sy’n wynebu rhwystrau i gyfranogi heblaw’r rhai a restrir yn y pdf uchod
Gweithgareddau corfforol yn yr ysgol
[sy’n addas ar gyfer] disgyblion gydag ADY neu anableddau
Gweithgareddau corfforol yn yr ysgol/gartref
[addas ar gyfer] disgyblion sy’n defnyddio cludiant a ddarperir gan yr awdurdod lleol a’r rhai sy’n dysgu o bell (o leiaf 30 munud)
Teithiau egnïol o gartref
[addas ar gyfer] disgyblion sy’n defnyddio cludiant a ddarperir gan yr awdurdod lleol a’r rhai sy’n dysgu o bell
Teithiau egnïol o’r ysgol
[addas ar gyfer] disgyblion preswyl